Canlyniadau Ymchwil Doeth am Iechyd Cymru
Mae Doeth am Iechyd Cymru yn cefnogi grantiau ymchwil gwerth dros £13m dros y bum mlynedd ddiwethaf.
Dyma rai o'r canlyniadau ymchwil yn sgil cyfranogwyr Doeth am Iechyd Cymru yn cymryd rhan.
Dementias Platform UK Mae dros 3,000 o gyfranogwyr Doeth am Iechyd Cymru wedi cymryd rhan:
Clinical Studies and Great Minds Register: protocol of a targeted brain health studies recontact database:
— Koychev I, Young S, Holve H, Ben Yehuda M, Gallacher J. ( BMJ Open, November 2020 10(11))
Astudiaeth Gymdeithasol COVID19 UCL – mwy na 7,000 o gyfranogwyr HWW yn cymryd rhan.
Abuse, self-harm and suicidal ideation in the UK during the COVID-19 pandemic
— Iob E, Steptoe A, Fancourt D (The British Journal of Psychiatry, July 2020)
Cyhoeddiadau Doeth am Iechyd Cymru:
Developing and evaluating a model of public involvement and engagement embedded in a national longitudinal study: HealthWise Wales
— Townson J, Davies J, Hurt L, Ashfield-Watt P, Paranjothy S.
(International Journal of Population Data Science, Sept 2020)
Iechyd meddwl, dementia a chanser yw themâu ymchwil canolog Doeth am Iechyd Cymru.
Byddwn yn ehangu ein themâu drwy gydweithrediadau ymchwil allweddol.
Gweld yr holl gyhoeddiadau ymchwil Mae Cyfranogwyr HWW wedi eu cefnogi trwy gymryd rhan – ewch i'n hadran cyhoeddiadau
Ymchwil COVID-19
Sut mae cyfranogwyr Doeth am Iechyd Cymru yn helpu yn ystod y pandemig
Ers Mawrth 2020, rydym wedi gofyn i 40,000+ o'n cyfranogwyr gyfrannu at astudiaethau COVID-19 a gynhelir gan sefydliadau ledled Cymru a'r DU megis: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Coleg Prifysgol Llundain a Choleg y Brenin Llundain. Gyda phynciau ymchwil yn amrywio o effeithiau iechyd meddwl y cyfnod clo, i farn pobl yng Nghymru ar ddefnyddio apiau olrhain cysylltiadau i dracio'r feirws, a llawer mwy.
Rydym yn falch bod nifer y cyfranogwyr Doeth am Iechyd Cymru sy'n cymryd rhan yn astudiaethau COVID-19 yn fwy na 31,000 hyd yn hyn. Diolch yn fawr iawn i bob un o'n cyfranogwyr sy'n helpu ymchwilwyr i fonitro'r feirws a'i effeithiau ar gymdeithas yn ystod y cyfnodau digynsail hyn. tudalen benodol ar gyfer COVID-19.
Ymchwilwyr yn gweithio gyda Doeth am Iechyd Cymru
Mae Doeth am Iechyd Cymru yn gweithio gyda chofrestr Great Minds, sydd dan arweiniad DPUK, i baru gwirfoddolwyr carfan gydag astudiaethau ymchwil dementia perthnasol. Mae Doeth am Iechyd Cymru hefyd yn un o'r carfannau sydd ar gael i ymchwilwyr dementia gael mynediad ati ar Borth Data DPUK. Mae'r Porth Data yn rhoi mynediad cyflym i ymchwilwyr at ddata'r garfan a fydd yn rhoi mewnwelediad newydd i ddementia. https://www.dementiasplatform.uk/our-impact/dpuk-cohorts/healthwise-wales
Beth mae ymchwilwyr yn ei ddweud am weithio gyda Doeth am Iechyd Cymru
Mae'r ymateb gan bobl yng Nghronfa Ddata Doeth am Iechyd Cymru wedi bod yn anhygoel
Yr Athro Marjorie Weiss, Ymarfer Fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae cyfraddau ymateb cyfranogwyr HWW yn wych! Mae hwn yn gyflawniad enfawr i'n tîm ac roeddwn eisiau diolch i bawb am gymryd rhan.
Dr Rhiannon Philips, Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd
Ni fyddai wedi bod yn bosibl cael cynifer o ymatebion a gafwyd hyd yma heb gefnogaeth y tîm (HWW). Rydym yn hynod ddiolchgar i'r holl gyfranogwyr am rannu eich safbwyntiau gonest ar farwolaeth a marw gyda ni.
Yr Athro Annmarie Nelson, Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie
Mae'n ysbrydoledig bod rhai cyfranogwyr wedi cysylltu yn uniongyrchol â ni. Nid yn unig y mae hyn wedi dangos parodrwydd i gymryd rhan a’u bod yn ei gymryd o ddifrif, mae hefyd wedi helpu i wella ansawdd ein gwaith yn y dyfodol.
Beth yw Doeth am Iechyd Cymru?
Mae Doeth am Iechyd Cymru yn gyfle unigryw i chi gael dylanwadu ar iechyd a lles cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru, ac i helpu'r GIG yng Nghymru i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Am fwy o wybodaeth, gwyliwch y ffilm fer hon neu darllenwch fan hyn.
Cofrestrwch nawr i ymunoGallwch chi helpu i siapio dyfodol iechyd Cymru?
Beth mae'n ei olygu?
- Cofrestrwch i ddweud eich bod yn fodlon cymryd rhan mewn ymchwil. Ni fydd hyn yn cymryd mwy na 10 munud.
- Llenwch holiaduron byr bob 6 mis er mwyn i ni gael darlun parhaus o'ch iechyd a'ch ffordd o fyw.
- Efallai y cewch eich gwahodd i ddarparu samplau biolegol i gysylltu â data'r holiadur ymchwil rydych wedi'i rannu.
- Cysylltwn â chi pan fydd astudiaethau newydd ar gael; eich dewis chi fydd ymuno neu beidio.
Mae gwaith ymchwil yn hanfodol er mwyn datblygu triniaethau gwell a rheoli afiechydon
- Mae llawer o heriau ym maes gofal iechyd gan gynnwys diagnosio a chanfod clefydau'n gynnar, a helpu pobl i gadw'n iach am gyfnod hirach.
- Mae pobl yn byw yn hirach, ond dywed un o bob tri oedolyn bod eu hiechyd yn effeithio ar eu bywydau, gydag un o bob dau person dros 65 oed yn derbyn triniaeth am ddau neu fwy o gyflyrau.
- Mae astudiaethau'n cael eu cynnal i fynd i'r afael â'r materion hyn, ond mae ymchwilwyr yn cael trafferth recriwtio digon o bobl ar eu cyfer.
Helpwch i ledaenu'r gair
Helpwch ni trwy ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol a rhannwch gyda’ch ffrindiau neu anogwch nhw i ymuno hefyd!
Newyddion
Eich cychlythyr Doeth am Iechyd Cymru chi 2021
Gobeithiwn eich bod chi i gyd yn aros yn ddiogel ac yn cadw'n iawn.
04/02/2021Estyn allan i ofalwyr ifanc trwy Rythm a Barddoniaeth yn ystod COVID-19
Yn gynnar yn 2020, ymunodd Ministry Of Life (MoL) â Doeth am Iechyd Cymru (HWW) i ddarparu eu harbenigedd ar weithio gyda phobl ifanc mewn angen i estyn allan at ofalwyr ifanc a'u helpu i rannu eu storïau trwy gerddoriaeth.
28/01/2021Lymphoma TrialsLink yn cynnig gwasanaeth i'r bobl yr effeithir arnynt gan Lymffoma yn y DU
Elusen yn y DU yw Lymphoma Action sy'n rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i'r bobl yr effeithir arnynt gan Lymffoma. Maent wedi lansio Lymphoma TrialsLink, gwasanaeth sy'n cynnig gwybodaeth am dreialon clinigol, gyda gwybodaeth ac adnoddau am dreialon clinigol sy'n addas i gleifion.
16/09/2020Cydweithrediad Doeth am Iechyd Cymru yn derbyn dros 6,000 o Ymatebion
Wedi ei gynnwys yn ddiweddar yn y cylchgrawn Welsh Pharmacy Review. Mae Dr Rowan Yemms yn siarad am fywyd ym Mhrifysgol Caerdydd fel Darlithydd Ymarfer Fferylliaeth, Cyfarwyddwr Cyswllt Cwrs ar gyfer rhaglen Presgripsiynu Annibynnol, ac Arweinydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus yr ysgol yn ogystal â chydweithio ar ymchwil yn seiliedig ar boblogaeth.
29/07/2020